Clybiau Plant
Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol drwy gydol y flwyddyn. Ystyrir y gweithgareddau ychwanegol hyn yn hanfodol i ddatblygiad y plentyn cyfan. Mae’n bosibl y bydd yr hyn sy’n cael ei gynnig yn newid yn ôl adeg y flwyddyn ac fe’u cynhelir yn ystod amser cinio neu ar ôl ysgol.
Celf
Pêl-droed
Y Cor
Clwb Rygbi
Pêl-rwyd
Sesiwn Antur
Dyma sesiwn a gynhelir unwaith yr wythnos lle mae'r plant yn dewis rhwng ystod o weithgareddau megis fel celf, TGCh, cymorth cyntaf, coginio, peirianneg, Ffrangeg, chwaraeon ayyb. Mae'r dosbarthiadau yn oedran cymysg o dderbyn lan i flwyddyn 6. Mae'r plant yn cael cyfle i weithio gydag eraill o bob oed a gwneud ffrindiau newydd. Maent yn newid gweithgaredd unwaith y tymor.
Tenis
Rhedeg
Clwb y Ddraig
Gymnasteg
Clwb Codio